Aros Gyda Ni
RHAGLEN - COLEG Y BALA
Mae Gwasanaeth Plant ac Ieuenctid Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn trefnu cyfres o benwythnosau ar hyd y flwyddyn yng Ngholeg y Bala. Am restr llawn o'r cyrsiau cliciwch yma.
CYFARFODYDD A CHYNADLEDDAU
Mae Coleg y Bala yn ganolfan Gynadledda hyfryd yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri. Mae nifer o ystafelloedd ar gael ar gyfer cynadleddau a chyfarfodydd.
Mae modd i ni, fel man cyfarfod bychan a chartrefol, ddarparu holl gysuron gwasanaeth o’r fath, a hynny ar lefel broffesiynol iawn. Mae hyblygrwydd ac anghenion ein cwsmeriaid yn holl bwysig i’r ethos Cristnogol yma yng Ngholeg y Bala.
Dewch i weld drosoch eich hun beth sydd ar gael yma.
CANOLFAN BRESWYL AR GYFER GRWPIAU
Mae’r Coleg yn darparu llety cysurus ar gyfer teithiau maes ysgolion a Phrif Ysgolion , Undebau Cristnogol a chynulliadau o bob math. Mae’r ystafell chwaraeon a’r cyfleusterau awyr agored yn boblogaidd iawn ymhlith y rheiny sydd ar deithiau addysgol!
Gallwn ddarparu prydau bwyd yn ol y gofyn.
GWELY A BRECWAST
Mae Coleg y Bala yn adeilad rhestredig Graddfa 2 sy’n cynnig canolfan ddelfrydol i ddod i adnabod tref y Bala a’r cyffiniau. O Goleg y Bala gallwch fwynhau golygfeydd trawiadol o Fynyddoedd Eryri a Llyn Tegid.
Cyfleusterau:
8 ystafell ddeniadol yn cynnwys bynciau. Mae cyfleusterau en-suite yn y rhan fwyaf ohonynt.
Ystafelloedd cynadledda a chyfarfod.
Capel sydd ar gael ar gyfer gweddïo, myfyrio ac addoli.
Gwasanaeth o safon uchel lle rhoddir y flaenoriaeth i anghenion ein cwsmeriaid.
Maes pêl-droed a phêl-fasged, cwrt tenis a llawer o chwaraeon awyr agored.
Cwrs Antur.
Ystafell Chwaraeon bywiog.
Bwyd cartref a chyfleusterau barbeciw.
BETH AM DREFNU I’CH GRŴP DDOD AT EI GILYDD AM BENWYTHNOS ?