Ysgolion
Ymweld â Coleg y Bala fel ysgol ...
... am y dydd:
Dyddiau Pasg
• Diwrnod cyfan yn adrodd hanes wythnos y Pasg trwy wahanol ddulliau o gyflwyno stori a gweithgareddau
i ysgolion cynradd.
• Defnyddir adeilad a gerddi Coleg y Bala fel cefndir i wahanol olygfeydd o’r hanes.
• Cynhelir y Dyddiau Pasg am dair wythnos ar ddiwedd y tymor cyn gwyliau’r Pasg, ac maent yn llenwi’n gyflym bob blwyddyn!
Diwrnod Mari Jones a’i Beibl
• Diwrnod o weithgareddau yn cyflwyno hanes Mari Jones yng nghyd-destun y dre lle daeth i chwilio am Feibl gan Thomas Charles.
• Bydd gweithgareddau a chyflwyniadau yn y Coleg a thaith i’r dre at Fanc Barclays, hen gartref Thomas Charles, ac at ei gof-golofn tu allan i Gapel Tegid.
... am ychydig o dyddiau
Beth am drefnu ymweliad preswyl yng Ngholeg y Bala i’ch ysgol am ddau neu dri diwrnod ganol wythnos?
(Gweler tudalen ‘Aros gyda ni’ am fanylion cyfleusterau Coleg y Bala.)
Rhaglen wedi ei pharatoi o gwmpas themau Addysg Gristnogol
Gallwn drefnu
• rhaglen o weithgareddau i gefnogi Cristnogaeth fel rhan o’ch astudiaethau Addysg Grefyddol.
• rhaglen yn cyfuno gweithgareddau awyr agored a gweithgareddau addysgol ar themau Cristnogol.
Defnyddio’r Coleg fel canolfan i ymweld â mannau o ddiddordeb yn yr ardal a threfnu eich rhaglen eich hun
• Mae Coleg y Bala mewn lleoliad arbennig ar gyfer teithiau maes ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
• Mae dau lyn enwog iawn yn yr ardal: Llyn Tegid, llyn naturiol mwyaf Cymru, a Llyn Celyn sydd â rhan bwysig yn hanes diweddar Cymru.
• Dros y ffordd i’r Coleg mae cartref Michael D Jones, sylfaenydd Y Wladfa ym Mhatagonia, dros Cwm Prysor mae ardal Hedd Wyn, bardd y ‘Gadair Ddu’, ac i gyfeiriad arall, tua Dolgellau, mae cyfoeth hanes y Crynwyr sy’n gefndir i nofel enwog Marion Eames, ‘Yr Ystafell Ddirgel’.
... neu beth am i ni ymweld â chi?
Mae aelodau o Dîm y Gwasanaeth Plant ac Ieuenctid ar gael i ymweld â’ch ysgol i arwain cyd-addoliad Cristnogol bywiog ac addas.
• Gallwn hefyd ddod atoch i gynnal gweithdai neu wersi ar Gristnogaeth sy’n plethu i’r maes llafur Addysg Grefyddol.
• Os oes gennych Gymdeithas neu Undeb Gristnogol yn yr ysgol, rydym ar gael i’ch cefnogi.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni yn Coleg y Bala
neu gyda Nia W Williams (Swyddog Addysg ac Adnoddau) niacolegybala@btinternet.com